Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 28 Mehefin 2022
Amser y cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddull electronig.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i’r Rhai sy’n Gadael Gofal
(30 munud)
4 Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Diogelwch Adeiladau
(30 munud)
5 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Gwerthuso a Gwella Addysg a Dysg yng Nghymru
(30 munud)
6 Datganiad gan Weinidog yr Economi: Mesurau Rheoli Ffiniau
(30 munud)
7 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Haf o Hwyl 2022
(30 munud)
8 Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Strategaeth Genedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2022-2026
(30 munud)
9 Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2022
(15 munud)
NDM8035 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2022, yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Mai 2022.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
10 Dadl: Cyfnod 4 y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)
(15 munud)
NDM8045 Jeremy Miles (Castell Nedd)
Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru).
Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), fel y'i diwygiad ar ôl Cyfnod 3
11 Cyfnod pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 29 Mehefin 2022